#

Deiseb P-05-895: Etifeddiaeth Rosa - Mynediad at ofal milfeddygol ar gyfer anifeiliaid anwes
Y Pwyllgor Deisebau | 15 Hydref 2019
 Petitions Committee | 15 October 2019
 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-895

Teitl y ddeiseb: Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynllun i helpu perchnogion cyfrifol anifeiliaid anwes i gael hawl i ymgynghoriadau milfeddygol wyneb yn wyneb a gofal ar gyfer eu hanifeiliaid.

O eleni ymlaen bydd gan Lywodraeth Cymru bwerau trethu cyfyngedig eu hunain am y tro cyntaf. Ers blynyddoedd lawer mae pobl gyffredin wedi cael trafferthion i dalu costau byw sylfaenol, ac mae hyn yn parhau. Nid oes dim amheuaeth ynglŷn â'r manteision i iechyd meddwl a llesiant pobl o gael anifail anwes. Mae llawer o'r anifeiliaid yn dod yn rhan o'r teulu. I bobl sy'n byw ar eu pennau'u hunain neu'n anghysbell, gall yr anifail fod yr unig gwmni sydd ganddynt.

Mae gwyddoniaeth filfeddygol, fel y rhan fwyaf o broffesiynau, wedi esblygu'n gyflym dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Llawfeddygon Milfeddygol, nyrsys milfeddygol a'u staff cymorth sy'n gweithio ar y "rheng flaen" yng Nghymru yn gwneud hynny o dan amgylchiadau heriol iawn yn aml. Mae'n dda gweld bod eu corff llywodraethol, sef Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS) wedi cydnabod hyn yn y blynyddoedd diwethaf ac wedi cymryd camau i geisio cefnogi llesiant iechyd meddwl o fewn y proffesiwn. Ond yn wahanol i iechyd dynol yng Nghymru, nid oes gwasanaeth am ddim ar gael gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer anifeiliaid pan fyddant ei angen, bedair awr ar hugain y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

O dan adran 3.16 o Ddeddf Lles Anifeiliaid (Cymru a Lloegr) 2006, cyfrifoldeb y perchnogion yw darparu ar gyfer pum angen llesiant sylfaenol anifeiliaid, a'r pumed o'r rhain yw ei "amddiffyn rhag dioddef poen, anaf a chlefyd”.

Byddwn yn dadlau bod gennym gyfrifoldeb moesol a moesegol yn ogystal â gofyniad a nodir yn y gyfraith. Mynegwyd hyn yn wych gan ein cyn-brif Weinidog Carwyn Jones AC yn y Senedd ym mis Gorffennaf y llynedd pan ddywedodd: "mae'r ffordd yr ydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig o'n gwerthoedd fel cymdeithas".

Mae'r diwydiant yswiriant ar gyfer anifeiliaid anwes wedi ffynnu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond gall llawer o berchnogion cyfrifol ddal i gael trafferth cael yswiriant i'w hanifeiliaid anwes. Cyflyrau sydd eisoes yn bodoli, cŵn sydd wedi'u heithrio gan ddeddfwriaeth sy'n benodol i frîd, neu lawer o anifeiliaid anwes sydd yn syml wedi rhagori ar faint o driniaeth y mae polisi yswiriant eu perchnogion yn ei gwmpasu.

Mae rhai sefydliadau trydydd sector fel y PDSA wedi ceisio llenwi'r bwlch ers blynyddoedd lawer.  Maent wedi gwneud gwaith rhagorol, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi gorfod gwneud y penderfyniad torcalonnus i dorri'n ôl ar y ddarpariaeth y mae'n ei darparu. Nid oes gan rai ardaloedd yng Nghymru ysbytai anifeiliaid na chlinigau milfeddygol dan arweiniad elusen.

Mae tuedd bryderus hefyd o berchnogion yn troi at fforwm cyfryngau cymdeithasol er mwyn cael cyngor ar faterion clinigol yn hytrach na mynd â'u hanifeiliaid i bractis milfeddygol. Rwy'n adnabod pobl sy'n gweithio ar llinell gymorth ar gyfer elusennau anifeiliaid.  Maent yn dweud bod y duedd hon yn cael ei hailadrodd gyda hwy.

Gyda fy nghefndir mewn achub anifeiliaid, rwyf wedi fy argyhoeddi ers blynyddoedd lawer bod y niferoedd cynyddol o anifeiliaid anwes sy'n cael eu gadael neu eu trosglwyddo i'r gwasanaeth achub o ganlyniad yn rhannol i anallu pobl i ariannu gofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid. Mae gwasanaethau achub yng Nghymru bron yn llawn ac mae'r holl ystadegau sydd ar gael yn dangos bod achosion o'r fath ac unrhyw erlyniadau sy'n deillio o hyn yn cynyddu.

Yn gyntaf, byddai cynllun o'r fath yn helpu anifeiliaid anwes a'u perchnogion. Byddai hefyd yn helpu'r rhai sy'n gweithio ar y rheng flaen ym maes achub, ac yn anad dim y proffesiwn milfeddygol yng Nghymru, sydd hefyd ar adegau yn gweithio dan yr amgylchiadau mwyaf heriol.

Deisebydd: Linda Joyce Jones

 

Y cefndir

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau llywodraeth sy'n helpu pobl i gael mynediad at ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes yng Nghymru neu mewn man arall yn y DU.

Mae sawl elusen genedlaethol sy'n darparu cefnogaeth a chymorth milfeddygol i berchnogion anifeiliaid anwes sydd ag anawsterau ariannol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys Cymru gyfan. Mae'r mwyafrif o elusennau wedi gosod meini prawf cymhwysedd cadarn. Mae'r rhain fel arfer yn darparu cymorth ariannol yn achos argyfwng milfeddygol. Ychydig o elusennau sy'n darparu cymorth ariannol ar gyfer costau a ragwelir a chostau ataliol, megis brechiadau, ond bydd rhai yn cynorthwyo pobl ar incwm isel er mwyn helpu i dalu am ysbaddu. Ymhlith yr elusennau mae: PDSA Vet Care, The Blue Cross Animal Hospitals, yr RSPCA, Dogs Trust a Cats Protection.

Mae Hope Project Dogs Trust yn canolbwyntio ar ddarparu gofal milfeddygol ar gyfer cŵn pobl ddigartref a dod o hyd i lochesi i'r digartref a fydd yn darparu ar eu cyfer gyda'u cŵn. Mae Freedom Project Dogs Trust yn darparu gwasanaeth maethu ar gyfer cŵn y rhai sy'n ffoi rhag cam-drin domestig ac yn sicrhau bod biliau milfeddygol cŵn sydd dan eu gofal yn cael eu talu.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae banciau bwyd anifeiliaid anweswedi cael eu sefydlu ledled y DU i helpu pobl i fwydo eu hanifeiliaid anwes.

Fel y soniwyd yn y ddeiseb, mae nifer o ddarparwyr yswiriant milfeddygol.

Y camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Ar 19 Mehefin 2018, gwnaeth Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y pryd, ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar les anifeiliaid anwes. Dywedodd [ychwanegwyd pwyslais]:

Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a grwp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru. O dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, mae dyletswydd gofal ar bob perchennog a phob un sy'n cadw anifeiliaid i sicrhau bod eu hanghenion lles yn cael eu diwallu, p'un ai ar sail barhaol neu dros dro.

[…]

Rhaid i ddarpar berchenogion anifeiliaid anwes, a rhai cyfredol, ystyried y dyfodol wrth benderfynu dod yn berchen ar anifail ai peidio, gan gynnwys sut i fodloni ei anghenion lles a'r costau sydd ynghlwm wrth wneud hynny. Fodd bynnag, rwy'n deall y gall amgylchiadau pobl newid. Hoffwn archwilio pa ddarpariaeth, cymorth a chyngor milfeddygol sydd ar gael i bobl sydd angen cymorth i ofalu am eu hanifeiliaid anwes. Gallai hyn fod yn ystod cyfnodau o salwch neu argyfwng, megis ffoi o aelwyd dreisgar. Hoffwn weld dull cydweithredol, gyda gwybodaeth ar gael yn rhwydd ar gyfer pobl pan fo'i angen arnynt. Bydd swyddogion yn trafod sut y gellir ymdrin â hyn gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru.

Aeth Lesley Griffiths ymlaen i ddweud bod gweithio gydag elusennau ar y mater hwn yn bwysig.

Ysgrifennodd Lesley at y Pwyllgor ynghylch y ddeiseb hon ar 3 Medi. Dywedodd:

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru sy'n casglu gwybodaeth am y cymorth sy'n cael ei roi gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru, ac maent yn aros am ymateb. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn edrych ar ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad cyn gynted ag y bydd ar gael.

 

Y camau gweithredu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mewn ymateb i ddatganiad llawn Lesley Griffiths yn 2018, cododd Mick Antoniw AC y mater o ran rheoleiddio ffioedd milfeddygol:

Ymddengys nad ydynt yn cael eu rheoleiddio i raddau helaeth, ymddengys eu bod yn cynyddu tua 12 y cant y flwyddyn, ac yna, ar ben hynny, mae tâl TAW o 20 y cant.

Gofynnodd i'r Gweinidog ystyried lleihau, neu ddileu TAW ar filiau milfeddygol. Ymrwymodd Lesley Griffiths i godi'r mater hwn gyda Chymdeithas Filfeddygol Prydain.

Cododd Vikki Howells AC y mater o ran banciau bwyd ar gyfer anifeiliaid anwes. Soniodd fod Ymddiriedolaeth Trussell bellach yn derbyn bwyd anifeiliaid anwes a bod y banc bwyd cyntaf ar gyfer anifeiliaid anwes wedi'i sefydlu yng Nghymru. Gofynnodd i'r Gweinidog ystyried yr agwedd hon ar y ddarpariaeth yn ei gwaith i gefnogi perchnogion anifeiliaid anwes.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.